Taflu Llwch I’n Llygaid

Gyda’r Etholiad Cyffredinol ond ychydig diwrnodau i ffwrdd, ac llai na wythnos ers Cyllideb olaf y Llywodraeth bresennol roeddwn yn disgwyl llawer mwy o fanylder neithiwr yn y ddadl rhwng llefarwyr Trysorlys pleidiau Llundain ar eu cynlluniau gwariant a thoriadau. Yn hytrach beth gafwyd oedd ffug drafodaeth gyda’r pleidiau i gyd yn ymfalchio ac ymrwymo i dorriadau yng nghwariant cyhoeddus a fydd yn waeth nag yng nghyfnod Thatcher. Ar yr un pryd ni chafwyd unrhyw fanylder ynghylch lle yn union bydd y bwyell yn syrthio. Yn hytrach, yr unig beth mae nhw’n fodlon cyhoeddi ar hyn o bryd yw ennillion effeithiolrwydd – mewn gair arall torriadau di-boen.

Mewn ffordd, fi ddim yn beio nhw am ballu cyhoeddu goblygiadau eu polisiau yn enwedig mewn cymunedau fel Sir Gaerfyrddin a’n dibyniaeth ar wariant cyhoeddus. Ond mewn gwirionedd, mae yr hyn mae pleidiau Llundain yn bodlon datgan ar hyn o bryd yn gyfwerth a thaflu llwch i lygaid yr etholfraint. Y broblem sydd gan bleidiau Llundain wrth gwrs yw bod nhw wedi ei llwyr ymrwymo i selio polisi economiadd ar anghenion y ‘filltir sgwar’. Er mwyn cadw’r anghenfil yn hapus rhaid son am leihau y ‘deficit’ ac yna’r ddyled wladwriaethol. Y broblem wrth gwrs yw nad ydynt am fod yn onest a’r etholfraint am wir goblygiadau ‘cryfhau cyllidol’.

Rydym ni fel Plaid wedi bod yn hollol glir bod polisi o dynnu i ffwrdd strwythurau cefnogaeth yr economi cyn bod tyfiant cynhaliadwy wedi ei sicrhau yn mynd i arwain at ddirwasgiad ‘double dip’ – gyda economiau fel Cymru, Canolbarth a Gogledd Lloegr yn wynebu’r sgil effeithiau gwaethaf. Y mae pleidiau Llundain yng Nghymru mwy neu lai yn ymladd yr etholiad yma ar sail gyrru economi Cymru i’r llawr.

Yn hytrach fe ddylai’r etholiad fod ar sail trafodaeth llawer ehangach:

  • Sut i ddelio a chost dynol y dirwasgiad. Gwn bod £1.4 triliwn o ddyled personol yn cylch rhedeg yn yr economi. Mae’r ffigwr anfferthol yma yn gyfwerth a 100% o GVA y wladwriaeth ac yn ei gwneud hi yn anodd i weld sut all tyfiant economaidd gael ei yrru gan wariant defnyddwyr sef sail ymateb Llafur i’r dirwasgiad
  • Sut i greu system trethiant fwy teg. Mae gan y Wladwriaeth Brydeinig un o’r systemau trethiant mwyaf anheg yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi cyhoeddi nifer o welliannau a fydd yn symud y bwrdwn trethiant tuag at y sawl sy’n medru fforddio talu
  • Sut i ddelio a gwendidau sylfaenol y system ariannu bydol
  • Sut i ddelio a polareiddio cyfoeth ar lefel rhanbarthol ac unigolion
  • Sut i greu economi fwy cytbwys sy’n llai dibynol ar ddinas Llundain

O ran lleihau gwariant cyhoeddus rydym wedi amlinellu torriadau ar brosiectau costus megis system di-werth Trident newydd a fyddai yn arbed dros £80bn; llongau llynges newydd; y cynllun cerdiau ID. Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau i godi bron i £10bn mewn trethiant trwy harmeneiddio lefelau trethiant ‘capital gains’ gyda treth incwm; newid y lefel uchaf o drethiant i ennillion incwm dros £100,000 y flwyddyn; a cyfynghu rhyddhad treth incwm ar gyfraniadau pensiwn i lefel safonnol treth incwm. Yn bersonol hoffwn i weld treth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol o 10% ar elw y banciau a fyddai yn codi rhwng £2 a £6bn a defnyddio yr arian hynny i dalu am wasanaethau i ddelio a chost dynol y dirwasgiad yn ogystal a chyllid buddsoddi newydd i hybu datblygiad economiadd yn ardaloedd tlotaf y wladwriaeth megis Sir Gaerfyrddin.

Ond yr allwedd wrth gwrs yw twf economiadd. Heb dwf economaidd fe fydd derbyniad trethiant y Trysorlys yn syrthio ac felly y ‘deficit’ ar ddyled yn codi. Y mae’r pleidiau Llundain i gyd yn gamblo popeth ar athroniaeth o fusnes fel arfer. Eu unig gonsern yw amddiffyn buddiannau yr uwch gyfoethog a’r elit economiadd. Fel arfer, nid yw anghenion ein cymunedau yn cael unrhyw fath o flaenoriaeth.

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.