Rhowch Ddiwedd ar y Duedd at Lafur yn y Cynulliad – AS y Blaid

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru heddiw wedi herio llywodraeth y DG i newid y modd yr etholir aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ystod Cwestiynau Cymreig, anogwyd yr Ysgrifennydd Gwladol Cheryl Gillan gan Mr Edwards i ystyried newid y drefn lle, ar hyn o bryd, mae 40 Aelod Cynulliad yn cael eu hethol dros etholaethau, a’r 20 aelod arall yn cael eu dewis trwy restr ranbarthol, fel rhan o broses Calman arfaethedig i Gymru.

Cadarnhaodd Mrs Gillan y buasai “yn edrych o ddifrif ar ei argymhelliad i gael 30 sedd cyntaf-i’r-felin a 30 ar drefn y rhestr”.

Mae Plaid Cymru wedi annog defnyddio’r system STV (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) i ethol aelodau i San Steffan a Bae Caerdydd fel ei gilydd.

Buasai’r Blaid hefyd am weld newid yn y rheolau presennol sy’n atal aelodau rhag sefyll am sedd etholaeth a rhestr. Cafodd y penderfyniadau i beidio â chaniatáu i ymgeiswyr sefyll dros y naill a’r llall ei gondemnio yn wreiddiol gan Blaid Cymru fel symudiad pleidiol wleidyddol gan Lafur. Nid yw’r rheol hon yn gymwys am etholiadau i Senedd yr Alban.

Wedi’r sesiwn gwestiynau, meddai Mr Edwards:

“O ystyried y ffaith fod newidiadau i ffiniau etholaethau San Steffan bellach yn anorfod, mae’n bryd i ni edrych ar yr effaith gaiff hyn ar seddi’r Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn rhwym o adlewyrchu’r rhai a ddelir yn San Steffan dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

“Edrychodd Calman yn yr Alban ar faterion eraill ar wahân i gyllido Llywodraeth yr Alban, a dyma gyfle yn awr i wneud iawn am anffurfio’r system ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol gan y blaid Lafur yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

“Mae arnom angen system etholiadol fydd yn esgor ar ganlyniad mwy cyfrannol na’r drefn bresennol, sydd yn ffafrio’r blaid Lafur yn anghymesur.

“Fy newis i fuasai symud at system STV, ond o ystyried gwrthwynebiad y Torïaid i gynrychiolaeth gyfrannol, a gwrthwynebiad y blaid Lafur i ddatgysylltu ffiniau San Steffan a’r Cynulliad Cenedlaethol, gellid cael consensws yn amlwg trwy symud at system lle mae gennym yr un ffiniau ar lefel etholaeth, gyda’r gweddill wedi ei hethol trwy’r rhestr. Buasai’n hawdd gweithredu hyn i Gynulliad Cenedlaethol gyda 60 neu 80 o aelodau.

“Yn draddodiadol hefyd, Llafur sydd wedi elwa o’r rheolau sy’n atal ymgeiswyr rhag sefyll am y rhestr ac am sedd etholaethol – rheol, gyda llaw, a helpodd Nick Bourne i golli ei sedd yn yr etholiad.

“Nid yw hyn yn digwydd yn yr Alban, ac fe’i cyflwynwyd yng Nghymru gan y blaid Lafur am resymau pleidiol wleidyddol yn unig. Yr unig le arall lle mae system o’r fath yn bodoli yw’r Wcráin, a rhaid i ni gael gwared â’r rheol annemocrataidd hon ac ymuno â gweddill y byd democrataidd.

Rwy’n falch fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi nodi hyn, a byddaf yn parhau i ymgyrchu am gynrychiolaeth deg yng Nghymru ac yn San Steffan.”

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.