Plaid am wella Mesur Cymru i sicrhau’r fargen orau

Mae Plaid Cymru wedi gosod gwelliannau i gamau olaf Mesur Cymru a fydd yn cael ei drafod yn y Ty Cyffredin fory (dydd Mawrth) gyda’r bwriad o gryfhau economi a democratiaeth Cymru drwy roi hwb i bwerau benthyg a grymuso’r Cynulliad i allu cynnal refferenda ystyrlon.

Wrth siarad cyn y ddadl ar y Mesur Cymru, dywedodd Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:

“Drwy gydol Mesur Cymru, mae Plaid Cymru wedi ceisio sicrhau’r fargen orau posib i’n cenedl drwy osod gwelliannau uchelgeisiol a fyddai’n cryfahu’r Mesur i rymuso llywodraeth Cymru gydag amrywiaeth o bwerau creu-swyddi.

“Os yn llwyddiannus, byddai ein gwelliannau’n rhoi’r grym i Lywodraeth Cymru roi gwarant ariannol i brosiectau isadeiledd – pe bai Llywodraeth Cymru’n sicrhau 5% o wariant Llywodraeth y DU ar warantau, byddai hynny’n tan-ysgrifennu £2bn o fuddsoddiad.

“Byddai’n gwelliannau hefyd yn caniatau Llywodraeth Cymru i ddewis ar ba brosiectau isadeiledd y byddant yn gwario – yn hytrach na gorfod gwario ar yr M4 ar orchymyn San Steffan, er enghraifft. Mae angen prosiectau o’r fath ym mhob cwr o Gymru a ni ddylai Llywodraeth San Steffan gael yr hawl i rwystro hynny.

“Yn anffodus, yn hytrach na chryfhau Llywodraeth Cymru sydd yn nwylo eu plaid eu hunain, mae Llafur wedi gosod gwelliannau gyda’r bwriad o oedi cynnydd Mesur Cymru. Dyma’r unig ddeddfwriaeth Gymreig mewn pum mlynedd. Yn ei ffurff bresennol, mae Cymru yn parhau i fod sawl cam y tu ol i’r Alban.

“Yn hytrach na gwneud addewidion gwag i’r Alban a thrin Cymru fel cenedl ail-ddosbarth, dylai pleidiau San Steffan gymeryd y mesur hwn – a buddiannau Cymru – o ddifri.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS:

“Cyn belled y bo gwelliant cyfansoddiadol Plaid Cymru yn y cwestiwn, byddai’n sicrhau fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr hawl i gynnal refferenda ystyrlon er mwyn parchu ewyllys pobl Cymru.

“Mae Cytundeb Caeredin sy’n rhoi sail gyfreithiol glir i refferendwm ar annibyniaeth Yr Alban fis Medi wedi gosod cynsail i hyn.

“Credai Plaid Cymru y dylai Cymru gael yr un grym hefyd. Wrth gwrs, nid annibyniaeth yw testun pob cwestiwn refferenda – ond yr egwyddor y dylai pobl Cymru allu penderfynu pa bwerau y dymunant eu cael a phryd sy’n bwysig.

“Mater syml o ddemocratiaeth yw’r ffaith y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol – os yw am dderbyn pwerau pellach – gael y grym i ofyn i bobl Cymru a ydynt yn cefnogi mesurau penodol.”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.