Araith Allweddol Cynhadledd Plaid Cymru 2013

Araith Cynhadledd / Conference Speech

Araith Cynhadledd / Conference Speech

Gyfeillion, mae’n fraint ac  anrhydedd cael eich annerch chi heddiw yma yn Aberystwyth ar fore cyntaf cynhadledd flynyddol Plaid Cymru.  Mae’n bleser yn enwedig cael bod yn etholaeth Ceredigion – ac rwy’n edrych  ymlaen yn fawr iawn at groesawu Mike Parker i rengoedd y Blaid yn San Steffan wedi etholiad dwy fil a phymtheg.

Fel cyn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae braidd yn emosiynol cael dychwelyd i’r neuadd yma.  Pymtheg mlynedd yn ol roeddwn yn sefyll fy arholiadau olaf yn yr ystafell hon.  Roeddwn wedi treulio pedair blynedd gore fy mywyd yn astudio yn yr adrannau Hanes a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.

Ar ol blynyddoedd o weithgareddau all-gyrsiol megis yr anfarwol grôl hanneri, llwyddais rhyw ffordd  i adael Aberystwyth gyda uwchradd.

Roeddwn wedi arbennigo yn bennaf ar hanes a gwleidyddiaeth diwedd y Rhyfel Oer – gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau yn Nwyrain Ewrop.  Ar ol treulio blynyddoedd yn astudio chwalfa ymerodraeth yr Undeb Sofietaidd, rwy’n teimlo bod gen i deimlad da am ddatblygiadau cyfoes ar ynysoedd Brydeinig.  Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous iawn lle mae trefn newydd yn datblygu.  Lle mae cyd destun perthynas wleidyddol pobol  ynysoedd Prydain yn newid o un sy’n seiliedig ar Genedl-Wladwriaeth ganoledig yn Llundain – i berthynas gydraddol rhwng cenhedloedd.

Rydym i gyd yn gwylio’r datblygiadau syfrdanol yn yr Alban yn eiddgar.   Ac mae neges glir o’r gynhadledd yma i bobol yr Alban ein bod yn dymuno yn dda iddynt dros y flwyddyn nesaf wrth iddynt ymgyrchu dros eu rhyddid gwleidyddol.  Peidiwch credu propaganda’r Llywodraeth Brydeinig a’r wasg dorfol sydd yn ei chefnogi – fe fydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn goroesi er gwaethaf tactegau di-gyfaddawd a distrywgar yr Unoliaethwyr.

Mae’r ymgyrch ‘Na’ wedi brandio ei hymgyrch yn “Project Fear”.  Mae unrhyw ymgyrch gwleidyddol sydd wedi seilio a’r ddinsitrio hyder a gobaith pobol yn ei dyfodol – yn haeddu colli.  Rwy’n ffyddiog y bydd pobol yr Alban yn ymateb i’r tactegau negyddol yma ac yn penderfynu cefnogi gweledigaeth bositif o ddyfodol eu gwlad.

Yng Nghymru wrth gwrs rydym yn hen gyfarwydd â’r tactegau ffiaidd yma gan elynion ein gwlad.  Ni’n rhy fach, rhy dlawd ac yn rhy dwp i lywodraethu ein hunain yn ôl y pleidiau unoliaethol.  Rhaid cael ein gwell (our betters) yn Llundain i wneud penderfyniadau drosom – yw cri yr unoliaethwyr.  Mae wedi creu argraff ddofn ar gydwybod y genedl.

Ond hyd yn oed yng Nghymru – atodiad cyntaf y Wladwriaeth Brydeinig – mae’r Cymry yn dechrau herio’r hen drefn a magu hyder cenedlaethol.

Ym 1999, ennillwyd refferendwm i roi elfen o hunanlywodraeth i Gymru o drwch blewyn.  Chydig o flynyddoedd yn ôl ennillwyd refferendwm arwyddocaol o fwyafrif llethol – lle y penderfynodd  pobol Cymru eu bod am fod yn llwyr sofran dros feysydd polisi sydd wedi eu datganoli.

Dros yr haf, dangosodd ymchwil y Comisiwn Silk – yr ymchwil mwyaf cynhwysfawr ers datganoli -  bod 62% on pobol eisiau mwy o bwerau i’r Cynulliad gyda phitw 20% yn erbyn; bod 80% yn credu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn amddiffyn buddiannau Cymru yn well na San Steffan; roedd 80%  eisiau i Gymru gael cyfrifoldeb am bolisi ynni; 63% am ddatganoli yr heddlu; ac roeddwn yn falch iawn gweld bod 58% am ddatganoli darlledu.

Cefais fy syfrdannu bod 20% am weld materion amddiffyn a pholisi tramor yn cael eu datganoli – sef annibyniaeth – ni heb hyd yn oed dechrau gwneud yr achos dros y materion hynny o ddifrif eto!!

Y peth mwyaf arwyddocaol am yr ymchwil oedd bod y ffigyrau yn gyson ymysg pobol o bod oedran ac o bob cwr o’r wlad – arwydd clir bod gwaith gelynion Cymru o greu rhaniadau artiffisial ymysg ein pobol wedi methu.

Gynhadledd, mae’r gwaith pwysig hyn yn ogystal a adroddiad Rhan 1 Silk ar bwerau trethiant – yn dangos yn glir bod cefnogaeth pobol Cymru i’n systemau llywodraethol datganoledig yn cynnyddu ac yn cryfhau.

Gyfeillion, mae ‘na le i bawb yn yr ystafell yma heddiw longyfarch ein hunain am wneud cyfraniad hanesyddol i ddatblygiad ein gwlad fel cenedl wleidyddol.  Ac ond megis dechrau rydym ni ar ein gwaith.

Hoffwn yn y rhan yma o fy araith dalu teyrnged i rai o wleidyddion y Blaid sydd wedi, neu ar fin, gadael y rheng flaen. Ein cyn Arweinydd Ieuan Wyn Jones wrth gwrs sydd eisoes wedi symud ymlaen i borfeydd newydd.  Alun Ffred a Rhodri Glyn hefyd wedi cyhoeddi eu bod am ildio eu dyletswyddau yn y Cynulliad.  Y ddau wedi gwasanaethu’r Blaid pan oeddem  yn llywodraethu ein gwlad.  Cyfraniad anhygoel dros nifer o ddegawdau.

Rydym wedi mwynhau nifer o fuddigoliaethau yn Nhwyrain Caerfyrddin ers 1999 – a cyfraniad Rhodri yn adeiladu’r Blaid yn sir Gar sy’n gyfrifol.  Er ei fod wedi cyhoeddu ei bod am ymddeol mae yn parhau mor ymrwymiedig ag eirioed – yn gorfodu dau tro pedol o Lywodraeth Cymru blwyddyn yma.

Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch yn bersonol i Rhodri am yr holl help mae wedi roi i mi dros y blynyddoedd, yn enwedig ers i mi gael fy ethol.  Alla i ddim dychmygu gwleidydd gwell i gyd-wasanaethu etholaeth.  Mae fy nyled bersonol yn un fawr i ti Rhodri.

Yn yr hystyngiadau i ddewis olynnydd i Rhodri datgelodd Adam Price nad oes neb wedi gwasanaethu Sir Gar am gymaint o amser a Rhodri, ac mae hynny yn dweud y cyfan am ei gyfraniad.

Mae’n arwydd o gryfder plaid wleidyddol wrth gwrs pan mae’n dod i newid cenhedlaeth – cyfnod yr  ydym yn byw trwyddo ar hyn o bryd.   Rwy’n hyderu ein bod yn datblygu cenehedlaeth newydd o wleidyddion sydd yn barod i arwain ein gwlad at gyfnod nesaf ein datblygiad fel cenedl wleidyddol dan arweinyddiaeth Leanne.

Sian Gwenllian yn Arfon wedi profi ei hun yn barod yn gynghorydd o’r safon  uchaf.

Yn sir Gaerfyrddin, mae pobol yn gorfoleddu bod Adam Price yn dychwelyd – a rwy’n edrych ymlaen yn arw i ail ddechrau ein partneriaeth yn gwasanaethu’r hen ddeheubarth.

Rwy’n cofio talu teyrnged i Adam yn fy araith forwynol.Gydag ef a thalentau eraill yn ôl yn y rheng flaen, sdim dau bod dyddiau cyffrous o’n blaen.

Ac ar y thema yma gyfeillion, mae’n fraint cael croesawu Aelod Cynulliad mwyaf newydd y Blaid i’r gynhadledd mewn capacity chydig gwahanol i’w un arferol.  Rhun, roedd dy fuddigoliaeth fis Awst yn un o rai mwyaf hanesyddol y Blaid – cweir a hanner i negyddiaeth ein gwrthwynebwyr.  Rwy’n edrych ymlaen yn enfawr i gydweithio gyda ti dros y blynyddoedd nesaf.  Mae dy fuddigoliaeth wedi ysbrydoli Cymru gyfan.

Nes i ddweud wrthot ti bod cael ‘ap’ yn dy enw yn dynamite gwleidyddol yn oes yr i pad ar i phone.  Rwyf wedi awgrymu i’r Cyfarwyddwr Etholiadau bod pob un o ymgeiswyr y Blaid yn ychwanegu ‘ap’ drwy gysylltu â deed poll!!

Er mawr gwarth, dim ond ar ddau benwythnos wnes i ymweld ag Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.  Ond rwy’n cofio cael peint gyda Rhun ar ôl un sesiwn ganfasio ym Mhorthaethwy a gofyn iddo pam yr oedd wedi neilltuo  gyrfa saff gyfforddus i un ochr – a chymeryd risg enfawr broffesiynol wrth roi ei enw o flaen aelodau’r Blaid am yr enwebiaeth, heb sôn am yr etholiad.

Roedd ei ateb yn un ysbrydoledig – dywedodd bod bywyd yn fyr, a roedd y cyfle i wasanaethu Cymru yn ormod o atyniad.  Nawr, mae’r profiadau sydd wedi creu’r meddylfryd hynny yn hysbys i Rhun a’i deulu a’i ffrindiau.  Ond tarodd y geiriau fi faint o anrhydedd yw hi i wasanaethu’r Blaid arbennig hon yn enw achos ein gwlad.

Gyfeillion, mae ein buddigoliaeth yr haf yma yn Yns Môn yn dangos beth y gallwn gyflawni fel plaid.  Mae Leanne a’i steil modern o arwain ac ymgyrchu yn adeiladu momentwm gwleidyddol sydd yn mynd i arwain at fwy o fuddigoliaethau yng nghyd-destun etholiadau – ond llawer pwysicach yn ein brwydr i sicrhau hunan lywodraeth i’n gwlad.

Gyfeillion, mae dyfodol y Blaid yn un llewyrchus.  Pan rwy’n edrych ar y talent ifanc yn ein plith mae’n hollol glir i mi nad oes gan unrhyw blaid arall ledled Prydain y cyffro a’r bwrlwm sy’n eiddo i’n plaid ni.  Gwleidyddion ifanc sy’n deall mai’r unig ffordd i newid tynged ein gwlad yw trwy herio’r hen drefn Wladwriaethol Brydeinig.  Gwleidyddion ifanc sy’n barod i aberthu elw materyddol i gyflawni rhywbeth llawer mwy cyfoethog – rhyddid cenedlaethol.

______________________________________________

What I have described so far is nothing short of political climate change,both in a party context, but far more importantly in the political context of our country.

Our ambitions are largely driven because the old system of direct rule from Westminster has failed our country and our people for far too long.

Although I have enjoyed every minute so far of representing the fantastic people of Carmarthen East and Dinefwr in the House of Commons – I think my great friends Elfyn, Hywel and Dafydd will agree with me that the imperial Parliament is not a very natural habitat for Welsh patriots such as ourselves.

The architecture of Westminster is deliberately designed to seduce anyone who spends any significant periods of time there.  There is little doubt in my mind that the architecture is deliberately designed to make you feel extremely small – to compress you as an individual and to make you conform.

That could explain how many a radical elected from the periphery soon find themselves losing their accents and their political identity.

Together with the corrupting influence of big money on Westminster politics it’s no wonder that there is little difference between the three London parties. Thatcher morphs into Blair and Blair morphs into Cameron in a seamless transition.

 

Westminster embodies the old politics for the elite by the elite.   I had hoped that the great financial crash of 2008 and the longest lasting recession since records began might have changed matters.

I thought the complete collapse of the neo liberal economic order might lead to the Westminster political class finally realising that a more equitable economic strategy was required where the proceeds of wealth are not funnelled to the very few – but shared amongst all.

I was convinced that the Labour party would renege on its Tory lite strategy. That they would admit that in trying to out Tory the Tories they had betrayed those communities that had been so faithful over the decades.

How wrong could I be?  Despite this disastrous Tory Lib Dem Administration using economic catastrophe as an excuse to pursue their ambitions of redefining the role of the State and their obsession with small government – Labour has signed up to the exact same spending plans as this Tory Administration following the next election.

Let’s be crystal clear here, Labour has signed up to Tory spending plans lock stock and barrel.   In doing so, they have committed to implementing the same small government model.  It’s an incredible strategic decision that shapes all other policy decisions – but has hardly been mentioned in dispatches – apart from the Western Mail!

Is it little wonder that they are known on social media as the Red Tories.  And despite a vicious rumour – I didn’t start that one!

Remember this message loud and clear whilst campaigning in 2015, there is not a single penny between the overall spending plans of the three London parties.   If people want change from the Tories and the Lib Dems there’s no point voting for Labour.  Edward Miliband admits he has no intention of reversing the current governments’ cuts.

The social media pioneers have got it bang on the button.  In future there will be a game app named spot the difference between a Blue Tory, Yellow Tory and a Red Tory!  It will keep you going for hours.

Politics for the London parties is no longer a battle of ideas.  I feel a pity for the media who have to try and find artificial division lines between warring tribes that for all intents and purposes are joined at the hip.

Westminster political discourse is based on personality, poll ratings; latest narrative development; who’s employed who from the similarly debased political class in the US – rather than a genuine ideological debate.

 

Returning to the start of my speech, there is a direct correlation between the demise of Westminster to an ideas free conformity, its subservience to the economic elite – and the growing support for Welsh democratic institutions.  We in Wales know that no matter what the colour of the government in London, the trajectory of political travel will remain the same.  The only real alternative for those who want to create a more prosperous and just society is to empower our own national Parliament with the tools to make a difference.

The Party of Wales of course, for as long as we send representatives to Westminster, will be a reformist force.  We don’t go down to Westminster to protect the interests of the super rich – which is why we will be putting forward a radical platform for the 2015 Westminster election.

Whilst Labour couldn’t even be bothered to join us and vote against the Tory tax cut for millionaires – we would restore it and introduce a genuinely progressive taxation system.

Whilst the Tories block and Labour dithers – we will promote a Robin Hood Tax on big bank trading.

Whilst Labour join with the Tories in protecting the universal banking model allowing speculators to gamble with the backing of public money, effectively privatising profit and nationalising debt – we will commit to splitting the banks so that taxpayers do not pick up the tab for the next financial crash.

Whilst in terms of geographical and individual wealth the British state has developed into the most unequal member of the European Union – – we will continue to demand a Economic Fairness bill which will address the disgraceful legacy of the Labour Tory tag team.

Whilst Labour and the Tories remain committed to a new generation of Nuclear Weapons at a cost of 100 billion pounds – we will scrap Trident renewal and reinvest our share of this money in public services and productive infrastructure investment from Port Talbot to Prestatyn.

At the next Westminster Election we will be inviting the people of Wales to cast verdict on Labour and Tory  collusion at the behest of our First Minister to locate Weapons of Mass Destruction on the Cleddau following Scottish independence.

Whilst Labour and the Tories are more than happy to use UK taxpayers cash to fund England only projects without compensation to the Celtic countries – we will demand that Wales gets the billions of pounds – our fair share -  from HS2 which would revolutionise transport infrastructure in our country.

Whilst Labour and the Tories have built a risky economic strategy around consumer debt and house price inflation – we will demand a genuine industrial strategy that rebalances the economy away from serving the needs of the financial sector based in the city of London – towards the production side of the economy creating sustainable growth.

Whilst Labour MPs voted with Tory Eurosceptics to reduce Welsh European funding – Plaid Cymru will always put the Welsh national interest first.

Whilst Labour and the Tories are happy to see the energy and natural resources of Wales plundered – we will demand that they are utilised and developed for the benefit of our own economy and our own people.  As I said at our last Conference and the one before that, I say again – no one in an energy rich country such as ours should live in fuel poverty.

 

The Party of Wales has always and will always present credible policies which put the needs of Wales and her people first.We give our all in order to create a fairer, more just and more self-confident nation. We are respectful and passionate about Wales’ past, and excited and ambitious for her future.

Westminster isn’t working for Wales.  It never has.  This is why our party has dedicated its existence to the creation and development of our own democratic national political institutions.

We are living in the age of political climate change.  The old order of elitist direct rule from London is coming to an end.  It’s our duty in the Party of Wales to step up to the challenge of leading the people of our country to a better future.

 

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.