Plaid yn hawlio buddugoliaeth mewn sgandal rhent biliwn o bunnoedd

Cynllun y Cyfrif Refeniw Tai i’w diwygio

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi hawlio buddugoliaeth yn dilyn y newyddion bod y Cynllun Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai – sydd wedi gweld dros biliwn o bunnoedd o arian rhent cynghorau Cymru yn mynd i’r trysorlys yn Llundain yn cael ei ddiwygio, gan adael mwy o arian yn nwylo cynghorau Cymru .

Hyd yn hyn, mae cynghorau a oedd yn codi mwy o arian o renti tai cyngor nag yr oedd yn ei wario ar gynnal a chadw wedi gorfod anfon yr arian dros ben i’r Trysorlys. Yna roedd yr arian yn cael ei hailddosbarthu i gynghorau ledled Cymru a Lloegr sy’n gwario mwy ar gynnal a chadw ac adnewyddu nag a gawsant yn y rhent.

Mae ffigurau a gafwyd gan Jonathan Edwards yn ôl yn 2010 yn dangos bod 21 o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi colli arian i’r Trysorlys yn amrywio o dros £139miliwn yng Nghaerdydd i lai na £2miliwn yn Rhondda Cynon Taf. Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin talu ychydig o dan £ 51 miliwn.

Cododd Jonathan Edwards y ‘lladrad rhent’ dim ond dau ddiwrnod ar ôl rhoi ei araith gyntaf yn y Senedd ym Mehefin 2010. Ar ôl ei ddadl yn ddiweddarach y flwyddyn honno, roedd Jonathan wedi cyflwyno cynnig i gael cefnogaeth ei gyd-Aelodau Seneddol ar gyfer cael gwared ar y cynllun. Yn anffodus, doedd dim un Aelod Seneddol o Gymru, ac eithrio rhai Blaid Cymru, wedi cefnogi ei galwad i roi terfyn ar y cynllun annheg.

Roedd gwleidyddion Plaid Cymru yn gynddeiriog ym mis Mawrth y flwyddyn ddiwethaf ar ôl y llywodraeth y DU cyflwyno’r Mesur Lleoliaeth a ddaeth yr HRAS i ben yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. Roeddent wedi parhau i ymgyrchu gyda’r Arglwydd Dafydd Wigley yn cyflwyno gwelliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi i ddiddymu’r cynllun yng Nghymru.

Yr wythnos hon, cafodd ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cytuno i 11 awdurdod lleol yng Nghymru i adael y system. Bydd y dull newydd yn gweld yr 11 o gynghorau Cymru yn cadw £33miliwn bob blwyddyn.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Yn fy nadl Seneddol yn ôl yn 2010, disgrifiais y lladrad rent fel un o anghyfiawnderau mawr o bolisi tai cyhoeddus yng Nghymru yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Dywedais wrth y Senedd fod Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi talu £ 51 miliwn yn ôl i’r Trysorlys yn ystod y degawd diwethaf.

“Mae’n bolisi sydd wedi arwain at arian rhent wrth rai o’r bobl dlotaf yng Nghymru yn cael ei ddychwelyd i’r Trysorlys, wedi arwain at danfuddsoddi cronig yn y stoc tai cyhoeddus, wedi amddifadu ein cymunedau o hwb ariannol sylweddol, a gyrru’r agenda o drosglwyddo’r stoc tai.

“Os ydym yn ystyried y pwysau ar y rhestrau aros am dai, gall cadw’r arian rhent hyn yng Nghymru ers i’r Cynulliad gael ei greu fod wedi codi 12,000 o dai newydd sbon, i gyd gyda chyfleusterau modern, yn amgylcheddol-gyfeillgar a fyddai wedi helpu i fynd i’r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol mawr megis tlodi tanwydd.

“Mae’r flwyddyn olaf yr ymgyrch hon wedi bod yn rhwystredig yn yr ystyr nad oes unrhyw blaid arall yn San Steffan yn gwerthfawrogi annhegwch y cynllun hwn sydd ond yn berthnasol i Gymru. Does dim un AS o Gymru, heblaw am fy nghydweithwyr plaid, wedi ei chefnogi.

“Serch hynny, yr wyf wrth fy modd fy mod wedi gallu rhoi’r anghyfiawnder sylweddol hwn ar yr agenda a chodi ymwybyddiaeth lywodraethau Cymru a’r DU. O ganlyniad, mae cynghorau fel Sir Gaerfyrddin, sydd yn dal i reoli ei stoc tai ei hun, yn cadw miliynau o bunnoedd bob blwyddyn.

“O ystyried bod yr arweinydd Llafur o Gyngor Sir Caerfyrddin wythnosau’n unig yn ôl, wedi rhybuddio o doriadau o ‘maint Beiblaidd’ i ddod, dwi’n falch o fod wedi gweithio i gyflawni’r newid sylweddol mewn agwedd gan y llywodraeth a fydd yn awr yn gweld miliynau o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi yn y sir. “

Dywedodd Arweinydd Cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths:

“Bydd colli symiau sylweddol o arian gan Gyngor Sir Gaerfyrddin yn dod i ben ynfuan, diolch i ymdrechion diflino Jonathan.

“Mae pob plaid yn y Cyngor yn gwybod y bydd yr arian hwn yn galluogi gwelliant pellach yn y stoc tai, galluogi’r cyngor i adeiladu tai cyngor newydd, a dod ag eiddo gwag hir dymor yn ôl i ddefnydd.

“Bydd buddsoddi arian yn Sir Gaerfyrddin, yn hytrach na’u hanfon i goffrau’r Trysorlys, yn sicr o roi hwb mawr i fusnesau lleol a chwmnïau adeiladu sy’n dioddef yn yr hinsawdd economaidd drychinebus.

“Rwy’n siŵr bydd trigolion y sir am ymuno â mi i ddiolch i Jonathan am ei waith caled yn dwyn y mater hwn i sylw pawb ac ennill canlyniad mor wych i Sir Gaerfyrddin ac i Gymru.”

DIWEDD
_________________________________________________________
Notes to Editor:

17th June 2010 – Jonathan Edwards questions Minister: http://www.theyworkforyou.com/debates/?id=2010-06-10d.452.5&s=%28Housing+Revenue%29+speaker%3A24743#g452.6

5th October 2010 – http://www.jonathanedwards.org.uk/plaid-call-for-urgent-meeting-with-uk-housing-minister-over-council-housing-payments?lang=en

4th November 2010 – Early Day Motion http://www.parliament.uk/edm/2010-12/964

(SPEECH) 10th November 2010 – A transcript of Jonathan Edwards’ Westminster Hall debate, which also explains the HRAS system, can be seen here: http://www.jonathanedwards.org.uk/my-opening-address-to-the-housing-revenue-account-debate?lang=en

7th July 2011 – http://www.jonathanedwards.org.uk/wales-to-lose-73m-this-year-in-housing-revenue?lang=en

8th July 2011 – http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/plaid-cymru-money-stolen-uk-1820374

9th September 2011 – http://www.partyofwales.org/news/2011/09/09/injustice-to-wales-housing-must-end/

26th April 2013 – http://www.rhodriglynthomas.org/plaid-calls-for-mortgage-action-to-help-young-people-get-on-property-ladder

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.