Plaid Cymru yn cefnogi pensiynau teg i weithwyr yn y sector cyhoeddus

AS yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ymddiheuro i’r gweithlu

Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru neithiwr yn erbyn cynigion Llywodraeth y DU i newid pensiynau’r sector cyhoeddus yn sylweddol a hefyd maent yn gwrthwynebu cau’r cynlluniau pensiynau fforddiadwy yn y gwasanaeth sifil.

Er diogelu rhai grwpiau, bydd y Mesur yn arwain at lai o bensiwn ar gyfer gweithlu digalon sydd yn aml yn cael ei dalu’n wael. Bydd cynlluniau newydd yn llawer mwy drud ar gyfer aelodau ac yn anfforddiadwy i lawer. Bydd hyn yn arwain at ‘optio allan’ a dibyniaeth yn y dyfodol ar fudd-daliadau’r bydd yn gostus i’r trethdalwr yn y tymor hir.

Mae’r Mesur hefyd yn ceisio cysylltu oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer yr holl gynlluniau newydd. I lawer o weision sifil ffyddlon gyda gwasanaeth hir y gallai hyn olygu ymddeoliad yn cael ei ohirio cymaint fel bod eu bywyd gwaith yn dod i ben naill ai cynnar gyda budd-daliadau is, neu lawer yn ddiweddarach gyda phroblemau iechyd a lles y gallai hyn ei olygu.

Roedd AS Plaid Cymru Jonathan Edwards un o ddim ond 19 o ASau a bleidleisiodd yn erbyn y llywodraeth. Gwnaeth mwyafrif llethol arweinyddiaeth Llafur a’r meinciau cefn Llafur ymatal. Bydd y Mesur yn symud ymlaen i’r cam nesaf yn y Senedd yn dilyn y 276 o bleidleisiau o blaid.

Wrth siarad ar ôl y ddadl dywedodd AS Sir Gaerfyrddin Jonathan Edwards:

“Bydd y Mesur Pensiynau Sector Cyhoeddus yn cael effaith fawr ar ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus, a fydd yn gweithio yn hirach, yn talu mwy mewn cyfraniadau a derbyn llai pan fyddant yn ymddeol. Yn wir, bydd y cynlluniau newydd a gynigir gan y mesur hwn yn gadael llawer o staff yn methu fforddio i optio i mewn, gan wneud llawer o’r cynlluniau pensiwn yn anghynaladwy yn y tymor hir. Bydd gweithwyr y sector cyhoeddus yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r wladwriaeth ar ôl ymddeol.

“Mae swyddi sector cyhoeddus yn bwysig iawn i siroedd y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Yn Llundain, mae’r sector cyhoeddus yn cyfrif am 22% o’r holl swyddi, ac yn ne ddwyrain Lloegr 22.8%. Ar y llaw arall, yn ogledd-ddwyrain Lloegr mae’n 29.4% ac yn yr Alban 28.6%. Yng Nghymru, mae’r ffigur ar ei uchaf ar 31.2%. Sir Gaerfyrddin, gyda chyfran uwch o bobl a gyflogir yn y sector cyhoeddus bydd yn cael ei daro gyda’r gwaethaf gan gynigion llywodraeth y DU.

“Yr wyf yn rhyfeddu bob amser pan fydd aelodau Llafur yn methu pleidleisio yn erbyn y Torïaid ar faterion o bwys mawr i gannoedd o filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.

“Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r cyflogwr mwyaf yn y sir, gyda dros 9,000 o weithwyr. Rwy’n siŵr y byddant i gyd yn awyddus i wybod a yw eu Harweinydd Cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge, yn hapus gyda’i gydweithwyr yn y Blaid Lafur i ymatal rhag y bleidlais allweddol ac sydd wedi agor y drysau i’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol i gymryd y Mesur pensiynau i’r cam nesaf.

“Rwy’n falch o ddweud fy mod yn sefyll i fyny ar gyfer y miloedd o weithwyr sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin. Dylai Arweinydd y Cyngor cyhoeddi ymddiheuriad cyhoeddus llawn ar fethiant ei blaid. “

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.