AS yn siomedig dros adolygiad ffiniau seneddol

Mae Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin wedi mynegi siomedigaeth gyda’r posibilrwydd o beidio a cynrychioli wardiau etholaethol Cenarth a Llangeler os bydd y ffiniau seneddol newydd yn mynd yn eu blaen.

Fe wnaeth Comisiwn Ffiniau Cymru gyhoeddu eu cynigion newydd dros ddyfodol etholaethau Seneddol yr wythnos hon a fydd yn gweld cynrychiolaeth Cymru yn San Steffan yn gostwng o 40 i 30.

Mae etholaeth arfaethedig Caerfyrddin yn cynnwys 10 ward Sir Gaerfyrddin sydd yn bresenol yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a Penfro a bron cyfanrwydd o wardiau presenol etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gydag eithriad wardiau Cenarth a Llangeler.

Mae Mr Edwards, Plaid Cymru, yn dweud ei fod yn siomedig gyda’r penderfyniad o symud y ddau ward yma i Etholaeth Ceredigion ac yn mynegu y byddai yn parhau i wneud y cais y dylai enw’r etholaeth adlewyrchu pwysigrwydd hanesyddol a diwyllianol ardal Dinefwr.

Dywed Jonathan Edwards AS:

“Yr wyf yn siomedig dros ben gyda’r bwriad o symud wardiau etholaethol Cenarth a Llangeler o Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Mae Rhodri Glyn Thomas AC a finnau wedi buddsoddi mewn swyddfa etholaethol yng nghalon Dyffryn Teifi sydd yn dyst o’n ymrwymiad i’r aral.

“Yr wyf yn pryderu y bydd y trefniad hyn o gael ond dau ward o gyfanrwydd Sir Gar ddim yn ffordd effeithiol o gynrychioli etholwyr ac yn achosi iddyn nhw gael eu llyncu gan Ceredigion mwyaf.

“Mae’n siomedig fod y Comisiwn ffiniau ddim wedi cydnabod pwysigrwydd diwyllianol ardal Dinefwr yn enw newydd yr etholaeth a byddaf yn parhau i frwydro dros pwysigrwydd hanesyddol Dinefwr i dderbyn y cydnabyddiaeth perthnasol.

“Yr wyf yn ystyried fy rol fel Aelod Seneddol i sefyll lan dros cymdogion Sir Gar a Chymru. Y byddaf yn parhau i ymdrechu dros sir Cryf, teg a ffyniol os byddaf yn derbyn yr anrhydedd o wasanaethu Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

“Yr unig rheswn y byddaf yn pleidleisio dros y ffiniau newydd yma fydd i weld trosglwyddiad sylweddol o bwerau o San Steffan i’n Cynulliad Cenedlaethol ni er mwyn i dinasyddion Cymru, yn cynnwys rhai yn Nyffryn Teifi, gael fwy o rheolaeth dros ddyfoldol eu hun.”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.