AS yn annog ymdrechion i newid statws Cymru o economi gyda chyflogau isel

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi nodi dechrau Pythefnos Chwarae Teg trwy ailadrodd galwad ei blaid am y gweithrediad o gyflog byw er mwyn rhyddhau miloedd o bobl o dlodi.

Dywedodd Mr Edwards bod adferiad economaidd Cymreig o hyd yn flaenoriaeth i Blaid Cymru a dylai’r ymdrechion ganolbwyntio ar newid statws Cymru o economi gyda chyflogau isel drwy greu swyddi o ansawdd uchel gyda chyflogau da.

Mae ei gais yn dod wrth i ymchwil newydd gan y TUC ddangos rhwng 2000 a 2013 roedd codiad o 9.8% ymysg y bwlch cyflogau rhwng y 10% o ennillwyr ar y brig yn Llundain a’r 10% ar y gwaelod yng Nghymru.

Dywedodd Mr Edwards:

“Byddai cyflog byw o £7.65 y tu allan i Lundain yn rhyddhau miloedd o bobl o dlodi ac yn sicrhau ansawdd byw gwell iddyn nhw a’u teuluoedd. Mae’n bolisi sy’n gwneud synnwyr economaidd oherwydd nid yn unig byddai’n codi safonau byw ond byddai’n rhoi hwb i economiau lleol oherwydd byddai gan bobl mwy o arian i siopa a chefnogi busnesau bychan.

“Mae’r ffigurau newydd heddiw yn cynnig ond ciplun o’r heriau sy’n wynebu’r economi Gymreig, a tra rydym yn croesawu diweithdra disgynnol, fe ddylai’r ymdrechion nawr ganolbwyntio ar newid statws Cymru o economi gyda chyflogau isel.

“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnigion am swyddi ansawdd uchel ac wedi’u talu’n dda drwy wella lefelau caffaeliad.-  byddai hyn yn creu 50,000 o swyddi yng Nghymru- a chorffolaeth wedi ei harwain gan y sector preifat i ddenu busnesau a buddsoddiadau i’n cenedl.

“Dengys casgliadau’r TUC sy’n amlygu’r bwlch sy’n tyfu rhwng Cymru a Llundain, bod wir angen cydbwyso economi’r DU er mwyn atal adferiad cod post.

“Roedd yn ddirgelwch llwyr i glywed y Llywodraeth Gymreig Llafur yn mynegi pryder ynghylch y bwch cynyddol gyda Llundain. Os eu bod nhw’n pryderu cymaint, beth am ganiatau Cymru i gymryd mwy o reolaeth dros ei heconomi ei hun, fel yr ydym ni, Plaid Cymru, yn cynnig?

“Mae mwy eglur nag erioed bydd Cymru o hyd yn llusgo ar ôl y gweddill pan gaiff y penderfyniadau economaidd pennaf eu penderfynu yn Llundain a’u gyrru gan fudd milltir sgŵar y Ddinas.

“Yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf gall y Cymry ddewis rhwng pleidiau Llundain a’u gwleidyddiaeth ‘llewyrch a llymder’, neu Blaid Cymru sydd â blaenoriaeth i greu Cymru gyda swyddau medrus, cyflogau teg ac economi cryf.”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.