Cyllideb gymysg ar gyfer Sir Gaerfyrddin

‘Adferiad Cod Post yn y DU’- Jonathan Edwards AS

Yn ymateb i Gyllideb y Canghellor, dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin a llefarydd Trysorlys Plaid Cymru:

“Dyma oedd Cyllideb gymysg, wedi ei chysgodi’n fawr gan y ffaith bod y Canghellor wedi methu cyflawni ei addewid i gydbwyso economi’r DU.

“Yn sicr mi fydd nifer o drigolion Sir Gaerfyrddin yn elwa o’r codiad i drothwy lwfans treth incwm yn ogystal â rhewiadau’r toll tanwydd- rhywbeth mae fy mhlaid a minnau wedi ymgyrchu dros am amser hir. Fodd bynnag, byddwn yn ffafrio sefydlogydd toll tanwydd dilys yn hytrach na’r ateb byr dymor yma.

“Yn y DU rydym yn profi  adferiad cod post, lle mae’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn lledu, ac mewn rhai mannau o Orllewin Llundain mae cyfoeth y pen deuddeg  gwaith yn fwy na mannau o Gymru.

“Tra bod adferiad i’r economi Gymreig o hyd yn flaenoriaeth i fy mhlaid, mae felly’n siomedig i beidio gweld unrhyw gynnydd ynghylch sefydlu Banc Cymru i roi benthycion i fusnesau bach, Mesur Tegwch Economaidd er mwyn dosbarthu cyfoeth ar draws y DU, neu fwy o ymdrechion i gyflwyno cyflog byw ar gyfer gweithwyr sy’n ennill cyflogau isel.

“Mae’r Llywodraeth Geidwadol a Democrataidd Rhyddfrydol yn mantoli llyfrau economaidd y wlad ar gefnau’r tlawd. Yn anffodus ni fydd y gyllideb hon yn gwneud llawer ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin.”

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas:

“Fel y mae pethau rydym yn gweld adferiad yn seiliedig ar y math anghywir o gynnydd economaidd- rydym wedi’n tywys yn ôl i ddyddiau’r blaid Lafur- dyledion personol anferth a chodiadau sydyn i brisiau tai. Roedd y gyllideb felly yn gyfle wedi ei golli yn sgil y math cywir o gynnydd economaidd- hynny yw buddsoddiadau uchelgeisiol mewn prosiectau isadeiledd i sbarduno ein heconomi.

“Mae’n debyg bod y ‘gymdeithas fawr’ sydd wedi ei ddatgan gan David Cameron ers etholiad cyffredinol 2010 wedi ei chefnu gan y gyllideb hon. Wrth i fwy a fwy o elusenau a sefydliadau trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin a Chymru hel y darnau ar ôl y cwtogi ar wasanaethau cyhoeddus, roedd braidd dim yn y gyllideb hon i gefnogi’r sector mwyfwy hon.

“Byddai Plaid Cymru wedi hoffi clywed y Canghellor yn cyhoeddi cynlluniau i ddileu Tryfer – a fyddai yn syfrdanol yn arbed £100bn- arian a byddai’n mwy synhwyrol i wario ar wasanaethau cyhoeddus, Treth Twm Siôn Cati a fyddai’n ychwanegu £20bn yn flynyddol, ac ymdrechion mwy grymus i ymgodymu ag osgoad ac efadu trethi.”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.