AS lleol yn gwneud achos dros ei ail-ethol mewn araith yn y Gynhadledd

Jonathan Edwards AS yn amlinellu gwahaniaethau plaid cyn 2015
 
Cymerodd yr Aelod Seneddol lleol Jonathan Edwards y llwyfan yn gynhadledd genedlaethol Plaid Cymru’r penwythnos hwn i wneud achos clir a chadarnhaol dros ei ail-ethol yn 2015, gan nodi rhai o’r blaenoriaethau byddai ef a’i gydweithwyr Plaid Cymru yn cyflwyno yn etholiad nesaf San Steffan.
 
Wrth siarad â’r ffyddloniaid  yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth  ddydd Gwener, amlinellodd yr aelod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr  y gwahaniaethau sylweddol rhwng  Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn  San Steffan. Hefyd  defnyddiodd ei araith  i wrthod strategaeth ’Tori-lite’ y blaid Lafur unwaith eto a phwysleisiodd y llinellau clir rhwng Plaid Cymru a’u wrthwynebwyr yn Llundain .
 
Wrth labelu ei araith ‘Newid yn yr Hinsawdd Wleidyddol’, roedd Jonathan Edwards yn falch i gyhoeddi bydd Plaid Cymru yn cyflwyno  polisïau – “llwyfan radical” -  i etholwyr Cymru yn 2015. Y rhain i gynnwys :
 
Datganoli llawn o bolisi ynni – fel nad oes neb mewn cenedl ynni – gyfoethog fel Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd;
Strategaeth ddiwydiannol go iawn – adnewyddu’r economi Cymru a chael gwared ar y ddibyniaeth ar filltir sgwâr dinas Llundain.
System dreth flaengar – wrthdroi’r toriad treth ar gyfer filiwnyddion
Peidio  adnewyddu Trident – gan adael £ 100biliwn i’w wario ar iechyd , addysg a seilwaith yn hytrach nag arfau dinistr torfol.
 
Mae’r  aelod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr  wedi bod yn feirniad cryf o’r llywodraethau’r DU a Chymru  ers ei ethol yn 2010 a diffyg y ddwy lywodraeth i ail-gydbwyso’r economi’r DU i ffwrdd oddi wrth ei dibyniaeth ar y  filltir sgwâr ariannol yn Llundain .
 
Yn ei araith a gafodd gymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa , dywedodd Jonathan Edwards :
 
“Mae San Steffan yn ymgorffori’r  hen wleidyddiaeth ar gyfer yr elît gan yr elit.  Yr oeddwn wedi gobeithio byddai’r crisis ariannol mawr o 2008 a’r dirwasgiad parhaol hiraf ers i gofnodion ddechrau wedi newid pethau.
 
“Roeddwn i’n meddwl y gallai’r cwymp cyflawn o’r drefn economaidd Ryddfrydol wedi arwain i’r dosbarth gwleidyddol San Steffan sylweddoli o’r diwedd fod angen strategaeth economaidd fwy cyfartal lle nad yw’r elw a’r cyfoeth yn cael ei sianelu i’r ychydig iawn – ond rhannu ymysg yr holl bobl.
 
“Roeddwn  yn argyhoeddedig y byddai’r blaid Lafur yn cefnu ar ei strategaeth “Tori-lite”.  Maent yn cyfaddef bod wrth geisio bod mwy Toriadd na’r Torïaid eu bod yn  bradychu’r cymunedau hynny sydd wedi aros mor ffyddlon iddynt dros y degawdau .
 
“Pa mor anghywir y gallwn i fod? Er gwaethaf bod y Rhyddfrydwyr a’r Torïaid wedi  defnyddio’r trychineb economaidd fel esgus i fynd ar drywydd eu huchelgeisiau o ailddiffinio rôl y Wladwriaeth a’u hobsesiwn gyda llywodraeth fach – mae Llafur wedi cytuno i’r union gynlluniau gwario a’r Torïaid yn dilyn yr etholiad nesaf .
 
“Gadewch i ni fod yn hollol glir yma, mae Llafur wedi ymrwymo i gynlluniau gwariant y Torïaid. Wrth wneud hynny, maent wedi ymrwymo i weithredu’r un model bach o lywodraeth. Mae’n benderfyniad strategol anhygoel sy’n llywio’r holl benderfyniadau polisi eraill – ond mae wedi prin ei grybwyll mewn adroddiadau .
 
“Cofiwch y neges hon wrth ymgyrchu  yn 2015; nid oes ceiniog  rhwng cynlluniau gwariant cyffredinol y tair plaid yn Llundain. Os yw pobl am newid wrth  y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol does dim pwynt pleidleisio i Lafur.   Mae Edward Miliband wedi cyfaddef nad oes ganddo unrhyw fwriad o wrthdroi’r toriadau’r llywodraeth ar hyn o bryd.”
 
DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.