AS Lleol yn arwain pleidlais Gyffredin i adolygu cyfradd uchaf treth incwm

Cefnogwyd ymdrech Jonathan gan 231 Aelod Seneddol

Finance Bill

Arweiniodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards Tŷ’r Cyffredin yr wythnos hon (Dydd Mawrth Ebrill 9fed) gyda’i alwad am adolygiad ynghylch cyfradd uchaf treth incwm.

Gosodwyd cyfradd uchaf treth incwm yn 40 ceiniog hyd at Ebrill 2010 pan gynyddwyd i 50 ceiniog, ond dyddiau cyn etholiad cyffredinol 2010. Yn hwyrach gostyngwyd y gyfradd yma i 45 ceiniog gan y Canghellor Ceidwadol, George Osborne- symudiad wedi ei ddynodi gan AS Sir Gaerfyrddin Jonathan Edwards yn “toriad treth ar gyfer yr unigolion sy’n enill £3,000 yr wythnos.”

Pan gafodd y mesur cychwynnol ei gynnwys yng Nghyllideb 2012 roedd Tŷ’r Cyffredin yn rhanedig ar benderfyniad yn dilyn pleidlais wedi’i galw gan Aelodau Seneddol Plaid Cymru a’r SNP. Fe dderbyniodd yr Aelod Seneddol lleol gefnogaeth gan 231 o Aelodau Seneddol yn ystod yr ymdrechion wythnos hyn.

Yn ystod y ddadl dywedodd Jonathan Edwards mai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw testun politicaidd mwyaf yn ein hoes a bod angen i drethiant blaengar chwarae rôl yn hynny. Esboniodd wrth ei gyd-Aelodau Seneddol bod ychydig iawn o bobl yn Sir Gaerfyrddin yn ennill mwy na £3,000 yr wythnos i fwynhau’r toriad treth.

Dywedodd yr AS Lleol a llefarydd y Trysorlys Jonathan Edwards:

“Mae gan fy mhlaid polisi hir sefydlog i adfer cyfradd uchaf treth incwm o 50 ceiniog. Roedd yn gonglfaen o’n cynnigion Cyllid eleni a llynedd. Lleihau’r gyfradd oedd un weithred a wnaeth tanseilio linell propaganda’r DU ynghyd â phrofi nad yw ‘pawb gyda’i gilydd’.

“Mae trethiant blaengar yn allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb- un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu economiau’r Gorllewin heddiw. Mae hyd yn oed yr IMF yn cytuno bod lleihau anghydraddoldeb yn angenrheidiol os bod economiau’n mynd i dyfu’n gynaliadwy yn y dyfodol.

“Mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei bod wedi colli gafael yn llwyr drwy dorri trethi ar gyfer unigolion sy’n ennill £3,000 neu fwy’r wythnos. Mae ennill y swm hyn o arian yn syniad gwbl ddieithr i’r mwyafrif helaeth o fy etholwyr a dyna pam roeddwn yn benderfynol i arwain yr ymdrechion i adfer cyfradd treth uwch.

“Mae gan y DU system trethiant atchweliadol. Gwelwn y tlotaf yn talu cyfran mwy o’u hincwm i drethi na’r cyfoethocaf. Dydy hyn ddim yn deg o gwbl a dyna pam fe wnes i gyflwyno’r bleidlais i’r Senedd.”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.