Angen dulliau creu swyddi ar frys, meddai Plaid Cymru

Sir Gâr yn cael ei effeithio gan y cynnydd mewn diweithdra

Mae cynrychiolwyr etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards AS a Rhodri Glyn Thomas AC wedi ymateb i’r ffigyrau diweithdra hynod siomedig diweddaraf gan barhau gyda’u galwad dros ddatganoli dulliau creu swyddi i Gymru ac i Lywodraeth Cymru ddeffro a pheidio a llaesu dwylo wrth fynd i’r afael â’r problemau hyn.

Mae’r ffigyrau diweithdra diweddaraf yn dangos bod y nifer o bobl sydd yn ddi-waith yn y DU wedi cynyddu o dros 80,000 i 2.51 miliwn yn ystod y tri mis yn arwain at fis Gorffennaf, hwn yw’r cynydd mwyaf mewn bron i ddwy flynedd yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Cynyddodd diweithdra ymhlith pobol ifanc hefyd o 78,000 i 973,000. Cynyddodd y cyfanswm o’r sawl a oedd yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith 20,300 ym mis Awst i 1.58 miliwn.

Yng Nghymru, mae’r nifer sy’n ddi-waith wedi cynyddu 7,000 yn y tri mis diwethaf. Yn ardal etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn benodol, roedd y nifer a oedd yn hawlwyr di-waith ym mis Awst 2011 yn 1,133. Mae hwn yn golygu cynydd o 126 ers Awst 2010, a hwn yw’r un ffigwr ar gyfer Gorffennaf 2011.

Mewn cyd-ddatganiad dywedodd Mr. Edwards a Mr.Thomas nad oedd yr un ardal yng Nghymru yn ddiogel rhag polisïau’r Toris a’r Dem Rhydd, a bod yn rhaid i lywodraethau ar naill ochr yr M4 bod yn effro i’r heriau difrifol sydd o’u blaenau wrth geisio cynyddu’r tyfiant o fewn yr economi yn hytrach na thyfiant mewn diweithdra.

Dywedodd y Cynrychiolwyr Etholedig:
“Ers etholiad SanSteffan, rydym wedi rhybuddio y byddai economi Sir Gâr yn agored i doriadau gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gan fod gennym nifer sydd yn uwch na’r cyfradd cenedlaethol o bobl sy’n gweithio o fewn y sector gyhoeddus.

“Mae Llywodraeth y DU wedi parhau gyda’u hagwedd hallt o dorri cyllidebau, ac felly canlyniad hyn yw bod y nifer sydd yn ddi-waith o fewn ein hetholaeth wedi codi bron 130 ers y cyfnod hwn flwyddyn diwethaf, ac nid yw wedi newid ers y mis diwethaf.

“Nid yw Llywodraeth Cymru lawer gwell chwaeth wrth i ddiweithdra gynyddu 7000 o dan orchwyl y Blaid Lafur. Cymharwch hwn gyda’r Alban sydd wedi gweld y nifer sydd yn ddi-waith yn gostwng 3000. Wrth i Lywodraeth yr Alban dorchi llewys a mynd i’r afael â’r problem, mae Llafur yma yng Nghymru wedi methu’n llwyr ddod ag unrhyw syniadau gerbron er mwyn creu swyddi.

“Addawyd i bobl Cymru na fyddai ‘diwylliant o esgusodion’ yn dilyn y refferendwm ar fwy o rymoedd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae Llafur wedi torri’r addewid hwnnw a gwnaethpwyd gyda phobl Cymru.

“Byddai datganoli dulliau creu swyddi yn mynd ymhell wrth gynorthwyo Cymru i oresgyn y storom a gwaethygwyd gan bolisïau gwael y Toris a’r Dem Rhydd.

“Pa mor uchel y mae’n rhaid i ffigyrau diweithdra godi cyn bod y tair plaid Llundeinig yn deall difrifoldeb eu gweithredoedd – neu ddiffyg gweithredu yn achos y Blaid Lafur – a chofiwch am y cyfleoedd er mwyn annog tyfiant yn yr economi a rhoddwyd gerbron gan Blaid Cymru eisoes, megis ein cynnig AdeiladuDrosGymru, er mwyn sbarduno’n heconomi a chael mwy o bobl yn ôl i weithio?”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.