Calman Cymru

Yn y flwyddyn a aeth heibio yng nghlymblaid y ConDemiaid, maent wedi dweud llawer am broses debyg i un Calman ar gyfer Cymru – hynny yw, trafodaeth ar fwy o ddatganoli Cymreig ar linellau tebyg i Gomisiwn Calman yn yr Alban sydd wedi arwain at fesur yr Alban sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy Senedd San Steffan.
Yr ydym yn siomedig fod y ConDemiaid yn ystyried mai dyma’r ffordd orau ymlaen i’r ddadl yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y gwallau amlwg yng Nghomisiwn Calman a’i ganlyniadau.

Yn wahanol i Gomisiwn annibynnol Holtham a sefydlwyd gan y Blaid fel rhan o Lywodraeth Cymru’n Un, cyfrwng gwleidyddol fu Calman erioed.
Gan wrthod hyd yn oed drafod annibyniaeth i’r Alban fel rhan o’u briff, yr oedd yn enghraifft o’r modd y credai’r pleidiau Llundeinig y gallent dra-arglwyddiaethu ac anwybyddu barn pobl yr Alban.

Mae’n anhygoel y gellid cynnal dadl ar ddatganoli yn yr Alban heb gynnwys y blaid oedd mewn llywodraeth yn Senedd yr Alban.
Serch hynny, cyfarfod wnaeth Comisiwn Calman, oedd yn cynnwys swyddogion gwleidyddol yn hytrach na’r arbenigwyr annibynnol oedd ar Gomisiwn Holtham; cyflwynasant adroddiad ac yr oedd eu canfyddiadau i raddau helaeth yn rhan o Fesur yr Alban.

Gellir mynegi’r Mesur mewn dau ran – y rhai sy’n ymdrin â materion ariannol penodol i’r Alban, a’r rhai sydd yn ymdrin â mân newidiadau ym mhwerau Senedd yr Alban.
Ceisiodd yr SNP wneud cyfres o newidiadau i’r Mesur wrth iddo fynd trwy ei gamau cynnar yn San Steffan, ond fe’u gwrthodwyd gan y ConDemiaid a Llafur.
Bellach, mae pethau wedi newid gyda mwyafrif gan yr SNP a’r posibilrwydd y bydd Senedd yr Alban yn gwrthod y Mesur, dan Gonfensiwn Sewel, cyn iddo gael y Cydsyniad Brenhinol.

Y cwestiwn i ni yma yng Nghymru yw pam fod y ConDemiaid yn ceisio gosod arnom broses bleidiol wleidyddol a ddatblygwyd gan y pleidiau unoliaethol fel y cam nesaf i ddatganoli yng Nghymru.

Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb yng Nghymru – mae ein syniad ni am ddatganoli Cymreig, ac annibyniaeth yn y pen draw, eisoes yn gymaint mwy nac unrhyw beth a gynigir neu a ddeellir gan Lafur, a dyna pam bod yn rhaid i ni edrych ar ddatganoli pwerau ariannol, ein hadnoddau naturiol, plismona a chyfiawnder troseddol a darlledu yn y cyfnod nesaf hwn.

Fodd bynnag, gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, heb fod yn mynnu ar ddiwygio Barnett fel rhag-amod ein comisiwn ar ddull Calman, rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn rhag derbyn tric gwleidyddol a ddefnyddir gan y pleidiau Llundeinig fel erfyn i ddirymu’r pwerau a’r cyfrifoldebau a gafwyd trwy gymaint ymdrech yma yng Nghymru.
Nid yw dadl nad yw’n mynd at graidd materion yng Nghymru yn ddadl y dylem wastraffu ein hamser arni.
Yn wahanol i gomisiwn gwreiddiol Calman, rhaid i’n comisiwn ni fod yn deg, yn agored, yn dryloyw ac annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol.

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.