Araith Rali Cymdeithas yr Iaith 22/5/2010

Hoffwn ddechrau trwy nodi fy niolch i Gymdeithas yr Iaith am drefnu y rail yma heddiw, a hefyd am fy wahodd fel siaradwr. Dwi wedi bod yn Aelod Seneddol bellach am chydig dros bythefnos, a rwy’n falch iawn y bod fi medru neud fy araith gyntaf – heblaw yr araith derbyn – ar bwnc sy’n bwysig iawn i fy ngwleidyddiaeth. I bawb sydd yng nghlwm a’r mudiad cenedlaethol, y mae amddiffyn a hyrwyddo buddiannau’r iaith Gymraeg yn holl bwysig boed hynny i wleidyddion proffesiynol Plaid Cymru, neu wrth gwrs i actifyddion Cymdeithas yr Iaith sydd wedi cyfrannu cymaint dros y blynyddeodd. A na, dyw’r frwydr hon ddim ar ben o bell ffordd – dros y misoedd nesaf mae yna ragor o waith i’w wneud ar y Mesur arfaethedig – a dros y blynyddoedd nesaf mae angen gweithredu o ddifri er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn parhau yn iaith fyw yn ein cymunedau ni. Pa iws hybu dwyieithrwydd onibai bod y gymraeg i’w chlywed ar ein strydoedd ni, yn ein siopau ac yn ein gweithleoedd.
Llwyddiant yr LCO
Megis dechrau’r broses yw hon – a does dim pwynt twyllo’n hunain i feddwl fod yna gonsensws gwleidyddol yn ein senedd dros yr angen i weithredu dros y Gymraeg – faint bynnag y mae yna ymdrechion gan y pleidiau i geisio portreadu hynny. Peidied neb ag anghofio – er gwaetha’r dyheadau i gryfhau’r Mesur Iaith – ble fyddan ni heddiw tase Plaid Cymru ddim wedi bod yn rhan o lywodraeth Cymru. Doedd dim bwriad gan y Blaid Lafur na’r Ceidwadwyr i ddeddfu er mwyn gosod dyletswyddau ar rannau o’r sector breifat i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. A drwy’r broses hon mae yna elfennau o fewn y ddwy blaid honno sydd wedi ceisio gwrthsefyll yr ymdrechion hynny – a hynny medden nhw ar sail cost ac ymarferoldeb.
Hoffwn neud yn hollol glir fy mod i – er nad oedd y gorchymyn yn berffaith yn sgil y cyfaddawdu a Llafur – yn cydnabod llwyddiant Plaid Cymru wrth sicrhau bod sofraniaeth gwleidyddol dros ein hiaith yn cael ei drosglwyddo i’n Cynulliad cenedlaethol ni. Dyma oedd un o brif lwyddiannau y mudiad cenedlaethol dros y hanner canrif diwethaf – a phan gewn ni refferendwm fe gewn ni’r pwerau yna yn gyflawn ac yn ddi-amod.
Dwi m’ond wedi bod yn cerdded corridorau San Steffan am ychydig byr o amser, ond rwy’n llawer fwy cysurus bod sofraniaeth gwleidyddol dros yr iaith Gymraeg bellach yn eiddo i bobol Cymru trwy ein system democrataidd ein hun. Hoffwn felly talu teyrnged i Alun Ffred Jones, Rhodri Glyn Thomas a Hywel Williams am ddyfalbarhau yn eu brwydrau anodd a rhwystredig i sicrhau bod hynny’n digwydd. Hefyd i’r Gymdeithas am chwarae rol adeiladol iawn adeg y broses LCO am lobio yn effeithiol a tanseiliodd y grymoedd adweithiol a oedd yn ceisio cadw pwer dros yr iaith Gymraeg yn San Steffan.
Ymosod ar Grymoedd Adweithiol
Yn anffodus trwy gydol y broses LCO a bellach y trin a thrafod dros y Mesur iaith, rhydym wedi gweld yr hen grymoedd adweithiol gwrth Gymraeg yn dod i’r golwg. Y CBI, darparwyr Gwasanaethau cyhoeddus, hyd yn oed Comisynydd newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Yn warth pur yw agwedd y Blaid Geidwadol a’i llefarydd yn Senedd Cymru yn galw’r mesur yn esiampl o ‘linguistic apartheid’. Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad chwaith mai un o weithredoedd cyntaf y llywodraeth geidwadol newydd yw bygwth yr arian sy’n cael ei ddarparu ar gyfer S4C. Tynwch i ffwrdd papur wal ail frandio gofalus y Blaid Geidwadol a mae nhw’n parhau i fod yr un hen blaid wrth Gymreig a Chymraeg.
Mesur – Proses Deddfwriaethol Aeddfed
Mae cyflwyniad y Mesur Iaith gan Lywodraeth Cymru felly yn ddatblygiad hanesyddol a gwleidyddol pwysig. Mae’n symbol o’n aeddfedu fel cenedl gwleidyddol. Ond fel unrhyw deddfwriaeth mae’n hanfodol cael trafodaeth eang ac amgen am oblygiadau y Mesur; a yw’n debygol o gyflawni ei amcanion a chwrdd a’n disgwyliadau. Mae’r rali yma heddiw wrth gwrs yn rhan o’r broses hynny.
Rwy’n croesawu yn fawr sylwadau y Gweinidog ei fod yn awyddus i groesawu awgrymiadau i wella’r mesur yn ystod y broses scriwtaneiddio yma.
Ac yn yr ysbryd hynny hoffwn argymhell tri maes i’w ystyried:
Yn gyntaf, credaf fod angen cymal mwy clir a llai amwys yn y mesur ynglyn a sefydlu statws swyddogol i’r iaith Gymraeg
Yn ail, rwy’n credu bod angen ystyried ymhellach y drefn o benodi’r Comisiynydd a sicrhau na all annibynniaeth y comisynydd cael ei gyfaddawdu.
Ac yn drydedd mae angen ystyried sut y gellir gwneud mwy i rymyso unigolion yn y broses o roi hawliau i siaradwyr Cymraeg.
Diolch yn fawr

One Response to “Araith Rali Cymdeithas yr Iaith 22/5/2010” [latest first]

  1. [...] Daeth y cyhoeddiad hwn dridiau cyn rali ger y Cynulliad gan y Cymdeithas. Bu ffrind imi, yr AS newydd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, yno’n siarad ac meddai ef … “fod angen cymal mwy clir a llai amwys yn y mesur ynglŷn â sefydlu statws swyddogol i’… [...]

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.