Tlodi Tanwydd

Amcangyfrifir bod 25% o gartrefi yng Nghymru yn dioddef o dlodi tanwydd. Ar ol deuddeg mlynedd o Lafur Newydd, mae hyn yn ddamniol ac yn dangos methiant llwyr o ran hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

Rydym angen gweithredu ar lefel rhyngwladol, Prydeining, Cymreig ac ar lefel Awdurdodau Lleol. I fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru o fewn ei grym cyfyngedig wedi ceisio rhoddi sylw teilwng i’r polisi hwn gyda’i chynlluniau arbed ynni.

Ar lefel rhyngwladol rydym angen cytundeb tymor hir rhwng cynhyrchwyr olew a’r gwledydd sydd yn ddefnyddwyr er mwyn sefydlogi pris olew. Gallai’r pecyn hwn gynnwys newid y arian masnachol o ddoleri os ydio’n parhau i wanhau.

Ar lefel Brydeinig, rydym angen dosbarthu taliadau tanwydd y gaeaf ymhlith yr holl grwpiau sydd fwyaf bregus; cael gwared o’r rhaid sydd yn dioddef o dlodi tanwydd oherwydd y farchnad drwy roddi tariff cymdeithasol gorfodol a cyfyngu ar dwf mewn prisiau fel yn Ffrainc; sicrhau nad yw cwmniau ynni yn medru gweithredu fel un; symleiddio strwythur y tariff: targedu buddsoddiad arbed ynni tuag at y rhai mwyaf bregus.

Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am fwy o reolaeth o gynlluniau Prydeinig megis CERT a CESP fel bod buddsoddi mewn taclo tlodi tanwydd yn cael ei gydlynnu gyda strategaethau Llywodraeth Cymru; cynyddu incwm uchafswm ymysg cartrefi Cymru sydd yn dlawd o ran tanwydd.

Dylai Awdurdodau Lleol ganfod y cartrefi sydd yn dlawr o ran tanwydd ac addasu’r cartrefi fel eu bod yn cael y pympiau aer i wres mwyaf diweddar.