AS yn galw i’r Gwasanaeth Tân derbyn y statws ‘gwasanaeth gwarchodedig’ wrth i doriadau gwerth 10% dod i’r amlwg

Mae Jonathan Edwards, yr A.S. Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi galw ar y Llywodraeth Gymreig Llafur i benodi’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn ‘gwasanaeth gwarchodedig’ er mwyn diogelu’r gwasanaeth rhag toriadau cyllid dinistriol.

Gwnaeth Mr Edwards y galwad yn dilyn ei gyfarfod gonest â Phrif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Mr Chris Davies. Dywedodd Mr Davies wrth yr AS bod yr Awdurdod yn wynebu toriad cyllid o 10% yn y flwyddyn ariannol nesaf petai’r chwe chyngor sir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn caniatau’r toriadau disgwyliedig i’r gwasanaeth.

Rhybuddiodd Mr Edwards fyddai toriadau mor llym yn arwain at gaead gorsafoedd ar raddfeydd eang ac yn difrodi’r gwasanaeth fel y mae wedi ei gynllunio ar hyn o bryd gyda phryderon anochel ynglŷn ag effeithiolrwydd y gwasanaeth.

Dywedodd Mr Edwards- a wnaeth arwain ymgyrch gyda’i gyd-weithiwr etholaethol Rhodri Glyn Thomas i achub gorsaf dân Rhydaman rhag ei israddio’r llynedd- byddai caniatau statws ‘gwarchodedig’ i’r gwasanaethau tân yn diogelu cyllidebau’r gwasanaethau tân yn nhermau arian, felly’n golygu byddai rhai i’r awdurdodau ond ystyried y pwysau chwyddiannol ar eu cyllidebau. Mi fyddai hyn o hyd yn mynnu toriadau o dros £1 miliwn o bunnau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ond ni fyddai’r gwasanaethau ar flaen y gad yn cael eu hisraddio a ni fyddai gorsafoedd yn cau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi arbed £6.4 miliwn yn barod rhwng 2005 a 2014.

Mis diwethaf fe wnaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffith A.C. o’r blaid Lafur, dweud wrth y cynghorau sir y byddant yn wynebu toriad hyd at 4.5 y cant i’w cyllideb y flwyddyn nesaf, ac os cânt eu caniatau mi fyddai’r gwasanaeth dân yn colli oddeutu 10 y cant o’u holl gyllid gweithredol mewn blwyddyn o ganlyniad.

Dywedodd Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

“Mae gan yr Awdurdodau Tân dull ariannu unigryw lle maent yn gallu gorchymyn eu cyllid dewisol gan eu hawdurdodau lleol. Er, yn hanesyddol mae’r awdurdod tân wedi derbyn y codiadau cyllid cyfartaledd neu’r gostyngiadau cyfartaledd gan gyllidau pob un o’r 6 cynghorau sir.

“Mae’r Cynghorau Sir yn wynebu toriadau hollol newydd yn barod, ond mae’n peri gofid fod y Llywodraeth Gymreig Llafur yn rhybuddio gallai’r cynghorau wynebu toriad ychwanegol blwyddyn nesaf o 4.5 y cant. Os caiff ei drosglwyddo i’r awdurdod dân, mi fydd yn cyfateb i golled o bron 10 y cant i gyllid blynyddol yr awdurdod. Dywedodd y Prif Swyddog Tân heb flewyn ar ei dafod byddai hyn yn sicr yn effeithio ar wasanaethau ein cymunedau ac yn difrodi’r gwasanaeth fel y mae wedi ei gynllunio ar hyn o bryd.

“Yn y misoedd diwethaf, mae Rhodri Glyn Thomas a minnau wedi arwain ymgyrch y gymuned i ddiogelu gwasanaethau ar flaen y gad yng nghorsafoedd dân Rhydaman a Phontyates. Mae bygythiadau pellach yn anochel oni bai bod rhyw sicrwydd i’r modd y caiff y gwasanaethau eu hariannu. Dyna pam rwyf wedi arwain ymgyrch cenedlaethol wedi’i anelu at annog Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun strategol.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Prif Swyddog Tân newydd am gwrdd â mi ac am amlinellu senario’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. A dweud y gwir yn blaen mae rhai o’r senarios yn ddychrynllyd. Byddai hyd yn oed y canlyniad gorau yn mynnu arbedion sylweddol. Mae yna achos cryf iawn i warchod y gwasanaeth tân yn ariannol er mwyn sicrhau diogelwch ein cymunedau.

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad a llefarydd Cymunedau a Llywodraeth Leol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas:

“Nid oes modd i’r cynghorau lleol i barhau i lyncu’r toriadau yma, felly rydym yn galw ar y Llywodraeth Gymreig Llafur i roi statws gwarchodedig i’n gwasanaeth tân. Hwn fydd y cam cyntaf i sicrhau diogelwch y cyllidebau yn nhermau arian ac mi fydd yn diogelu’r cynghorau sir rhag trosglwyddo toriadau i’r gwasanaeth tân.

“Ar hyn o bryd mae’r gwasanaethau dân yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn costio oddeutu £49 y flwyddyn ar gyfer pob person sydd dan eu cyfrifoldeb, neu 13c y dydd. Mi fyddai ychydig dros 1 ceiniog y dydd ar gyfer pob person yn arbed yr holl doriadau i’r gwasanaeth.

“Mae’n amlwg bod yna ddadl i’r Cynghorwyr Sir ynghylch y lefelau o dreth cyngor yn y byr dymor, ond mae modd i’r Llywodraeth Gymreig atal y toriadau drwy gamu i’r bwlch ac amddiffyn ein hawdurdod dân. Fodd bynnag, os bod rhaid i’r cynghorau caniatau’r toriadau cyllid i’r awdurdodau dan, a dweud y lleiaf byddai’n anghyfrifol ac mi fydd yn peryglu’n cymunedau.”

DIWEDD

Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.